Dychmygwch!
Lleoedd rydych chi erioed wedi eu gweld ond eto maen nhw bron iawn ar garreg eich drws?
Taith fws fer a thro hawdd – a dyna chi!
Mae llawer o atyniadau a llwybrau cerdded cyfareddol yng nghefn gwlad Castell-nedd Port Talbot sy’n agos i’ch cartref chi, ewch i’n horiel luniau am syniadau! Mae bws o leiaf unwaith bob awr* yn ystod y dydd ar ddiwrnodau gwaith yn y Cymoedd mwyaf a all fynd â chi i Gastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe.
*mae bysiau uniongyrchol ar lawer o’r llwybrau, weithiau mae angen newid bws; mae tocynnau diwrnod ar gael.
Hyd yn oed os ydych fel arfer yn mynd yn y car, beth am ddal y bws am unwaith a chael eich synnu ar yr ochr orau: wrth gyrraedd, byddwch wedi dadflino, dim pryderon parcio, ac wrth gwrs, gallwch gael gwydraid neu ddau cyn mynd adre.