Parc Gwledig Margam

Eich llwybr i antur, treftadaeth a harddwch naturiol ar y bws X1 ac X4, yn uniongyrchol o Gastell-nedd, Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae Parc Gwledig Margam yn adnodd naturiol eithriadol sy’n agos i’r gwaith dur anferth ar yr arfordir islaw, ond yn ei ragflaenu’n o bell – mae iddo hanes hir a chyfareddol. Bydd y bws yn eich gadael wrth brif fynedfa’r Parc.

Mae’r Parc wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal am bron mil o flynyddoedd ac mae llawer o’r nodweddion godidog sy’n ein hatgoffa o’i orffennol yn parhau hyd heddiw. Gallwch fwcio taith dywys ymlaen llaw drwy gysylltu â Chyfeillion Parc Margam.

Os hoffech grwydro o gwmpas ar eich pen eich hun, dyma’r lleoedd i’w gweld gyda rhai o’r manylion hanesyddol.

Castell Margam

Adeiladwyd canolbwynt y Parc fel cartref teuluol i’r diwydiannwr a’r tirfeddiannwr lleol, Christopher Rice Mansel-Talbot, rhwng 1830 a 1835. Cafodd ei adeiladu yn yr arddull Gothig Tuduraidd ar raddfa fawreddog ac am gost o £50,000. Disodlodd hwn ei hen blasty teuluol, sef Castell Pen-rhys ym Mro Gŵyr, a chafodd ei addurno â thapestrïau, hen bethau a dodrefn cain. Ar ôl marwolaeth Talbot yn 1890, cafodd y castell ei drosglwyddo i’w ferch Emily Charlotte a fu’n byw yno tan ei marwolaeth hithau yn 1918. Ar ôl hynny, cafodd ei adael mewn ymddiriedolaeth i’w nai.

Yn 1941 arwerthwyd y castell gan yr ymddiriedolwyr am £29,000 a chafodd ei brynu yn 1942 gan fentrwr lleol, David Evans-Bevan, oedd yn berchennog glofa a bragdy. Yn anffodus, cafodd hwn ei fod yn rhy fawr i fyw ynddo. Meddiannwyd y castell yn orfodol gan y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei ddifrodi’n sylweddol. Gan na ellid dod o hyd i noddwr cyhoeddus ar ei gyfer, aeth yn adfail ac ni ddechreuwyd ar y gwaith adfer tan ar ôl tân a ddigwyddodd yn 1977.  Heddiw mae’r castell yn adeilad rhestredig Gradd I yng ngofal y cyngor lleol.

Orendy Margam

Adeiladwyd yr Orendy unigryw hwn, y mwyaf yn Ynysoedd Prydain, rhwng 1787 a 1790 gan Thomas Mansel Talbot a oedd yn berchennog ar Ystad anferth Margam ar y pryd. Ei bwrpas oedd gwneud lle i’w gasgliad mawr o goed ffrwythau – orennau, lemonau a ffrwythau citrws eraill – a brynodd yn ystod Taith Fawreddog o gwmpas Ewrop (1768-1772) ac a achubodd o longddrylliad diweddarach ger Porthcawl.

Fel yn achos y castell, meddiannwyd yr Orendy’n orfodol gan luoedd yr Unol Daleithiau yn yr Ail Ryfel Byd a chafodd y casgliad ei esgeuluso. Cafodd ei symud i dŷ gwydr flynyddoedd yn ddiweddarach. Heddiw, mae’r Orendy yn lleoliad ar gyfer priodasau, cynadleddau a digwyddiadau ac mae’r casgliad o blanhigion citrws yn y tŷ gwydr o hyd.

Abaty Margam a’r Amgueddfa Cerrig

Mae Abaty Margam, a sefydlwyd gan Robert, Iarll Caerloyw, fel tŷ i’w ferch yn dyddio o 1147 a chymerodd bron 50 mlynedd i’w adeiladu ar safle eglwys fynachaidd Geltaidd gynnar. Ymhen amser, hwn oedd y tŷ mynachaidd cyfoethocaf yng Nghymru. Roedd dwy gymuned yn byw yno – mynachod a recriwtiwyd o deuluoedd Eingl-Normanaidd – a brodyr lleyg a weithiai ar ffermydd yr abaty. Roedd yn gweinyddu ystadau ym Morgannwg a thu hwnt, ac roedd yn ganolfan ddiwylliannol bwysig. Byddai’r mynachod yn darparu llety i deithwyr, yn cynnwys y Brenin John a’i fyddin gyfan yn 1210, yn y Gwesty. Ar adeg y Diddymiad gan y Brenin Harri VIII yn 1536, dim ond naw mynach oedd ar ôl yno a phrynwyd y safle gan Syr Rice Mansel.

Mae olion presennol yr Abaty’n cynnwys rhan o Eglwys yr Abaty a’r Gwesty, ynghyd ag adfeilion y Cabidyldy o’r 13eg ganrif. Wrth ochr rhan flaen yr eglwys mae’r Amgueddfa Cerrig a leolir mewn hen ysgoldy Fictoraidd ac mae’n cynnwys casgliad gwych o gerrig wedi’u cerflunio a’u harysgrifio, y mae rhai ohonynt yn dyddio o amser y Celtiaid.

Capel Mair

Ar ben bryn ar ymyl gorllewinol y parc saif adfail rhestredig gradd 2 ‘Yr Hen Eglwys’ sy’n adnabyddus yn gyffredin fel Capel y Santes Fair neu Gapel Mair. Cafodd ei adeiladu fel lle i addoli, ac fe’i defnyddiwyd gan werinwyr ac iwmyn lleol nad oedd ganddynt yr hawl i addoli yn yr abaty.

Bryngaer hynafol Mynydd y Castell

Mae’r pentir tra amddiffynedig hwn yn cynnwys gwrthgloddiau caer Silwraidd hynafol a ddefnyddiwyd i amddiffyn y llwythau rhag y Rhufeiniaid rhwng 48 OC a 70 OC. Mae’r safle ar ffurf D a byddai ffens pren, ffos a banc llai, is, ar ei ben. Yn ei amser, byddai wedi bod yn safle strategol pwysig ar gyfer rheoli’r llwybr ar hyd y gwastadedd rhwng Morgannwg a Gŵyr.

Y Gyrroedd Ceirw

Mae hyddod brith wedi crwydro Parc Margam ers cyn cyfnod y Normaniaid a heddiw mae gyr o tua 300 o’r rhywogaeth hon yn y parc, a werthfawrogir am eu gosgeiddrwydd a’u harddwch ac am ansawdd eu cig carw. Mor bell yn ôl â 1558, rhoddwyd trwydded i Syr Rice Mansel i amgylchynu’r parc â ffensys, ac ers hynny mae’r ceirw wedi cael eu ffermio’n barhaol ar yr ystad. Ynghyd â’r Hyddod Brith, mae bellach 64 Carw Coch a 34 o’r rhywogaeth mewn perygl, Père David, ym Margam, sy’n rhan o raglen bridiau a redir ar y cyd â Pharc Saffari Whipsnade.

Hamdden

Antur yn y Parc

Mae’r Parc yn fan gwych i fwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored ac mae Margam Park Adventures yn darparu gweithgareddau fel beicio mynydd, canŵio, cyfeiriadu a llawer mwy.

I’r anturiwr brig y coed beiddgar, mae gweithgareddau gan Go Ape yn y parc hefyd.

Tro yn y Parc

Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer mynd i gerdded yn y Parc, yn amrywio o lwybrau hawdd i rai mwy egnïol. Gallwch brynu pecynnau cerdded yn y caban wrth y fynedfa neu yn y siop anrhegion, neu gallwch ymuno ag un o’r teithiau cerdded gyda thema, neu ofyn am daith dywys bersonol gan Gyfeillion Parc Margam

Y Rheilffordd Fechan

Gall teithio ar y trên rheilffordd gul hwyluso gweld y parc – mae’n rhedeg o’r caban wrth y fynedfa i’r castell gan fynd heibio i lwybr y fferm, y castell, y llynnoedd, y coetir a’r bywyd gwyllt. Mae’n redeg yn y Gwanwyn a’r Haf yn unig

I gael gwybod am fwy o bethau i’w gwneud yn y Parc neu i gael unrhyw wybodaeth arall, ewch i wefan Parc Margam.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

  • Port Talbot – 4 cilometr

  • Prif Fynedfa Parc Margam

  • Mae parcio ar gael ar y safle (codir tâl)
    Gorsaf Parcffordd Port Talbot (ar yr ochr ddeheuol – codir tâl)
    Mae’r bysiau X1 ac X4 yn cysylltu Port Talbot â Margam

  • Mae’r llwybrau Cymru Clipper X1 neu X4 Abertawe/Castell-nedd-Port Talbot-Parc Margam-Pen-y-bont ar Ogwr yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn bob awr neu hanner awr* yn ystod y dydd; gwasanaeth dydd Sul cyfyngedig.
    *bob hanner awr Port Talbot-Margam-Pen-y-bont ar Ogwr

  • Gallwch brynu Tocynnau First Day ardaloedd Bae Abertawe gan yrrwr y bws. Mae’r rhain yn rhoi teithio diderfyn am ddiwrnod cyfan (opsiynau oedolion, pobl ifanc a theulu).

    Os ydych yn dod ar y trên, gallwch brynu tocynnau Plus Bus Port Talbot ar gyfer teithio ymlaen gyda’ch tocyn trên.