Rhaeadrau mawreddog-treftadaeth hudolus-teithiau cerdded gwych
Hawdd eu cyrraedd ar y bws o Gastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe
Mae Cwm Nedd yn enwog ers canrifoedd am ei harddwch rhyfeddol, sydd wedi ei adlewyrchu yng ngwaith rhai o artistiaid blaenllaw’r byd, yn benodol J.M.W. Turner. Mae llednant Cwm Dulais yn hyfryd hefyd.
Mae’r ddau gwm yn cynnwys y nifer fwyaf o raeadrau a sgydiau mawreddog ym Mhrydain gyfan. Mae yma gyfres o deithiau cerdded o wahanol raddau sy’n darparu ar gyfer pawb, o’r rhodiannwr hamddenol i’r cerddwr tra egnïol.
Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais
Mae hwn yn safle treftadaeth gwych ble mae’r hen waith tun a’r olwyn ddŵr wedi cael eu hadfer yn ofalus i ddweud y stori am gyfraniad Aberdulais i’r Chwyldro Diwydiannol. Mae’r rhaeadr fawreddog yn rhan allweddol o’r stori gan iddi ddarparu’r pŵer i redeg y gwaith tun.
Gallwch fynd yno ar fws 58 neu T6 yn uniongyrchol o Gastell-nedd ac Abertawe; mae’r safle bysiau ar bwys y fynedfa. Mae cyswllt uniongyrchol ag Aberhonddu hefyd ar y bws T6.
-
Rhaeadr Aberdulais 58, T6














Amgueddfa Glofa Cefn Coed
Mae’r amgueddfa’n dweud stori codi glo yma – ar un adeg, hon oedd y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd – drwy eiriau, lluniau ac arteffactau. Mae’r lefel danddaearol, gyda’i hefelychiad o wythïen lo, yn adlewyrchu amodau gwaith truenus y glowyr. Mae hefyd yn gartref i beiriant weindio stêm anferth ac yn cynnwys hen dram nwy o Gastell-nedd a redodd am y tro olaf yn 1920 ac sydd wedi ei adfer yn ofalus.
Noder bod yr amgueddfa ar agor ar y penwythnos ac ar ddiwrnodau gwaith (ac eithrio dydd Llun a dydd Mercher) a’i bod ar gau yn ystod misoedd y gaeaf. Gallwch fynd yno ar y bws 58 neu T6 yn uniongyrchol o Gastell-nedd ac Abertawe; mae’r safle bysiau ar bwys y fynedfa. Mae cyswllt uniongyrchol ag Aberhonddu hefyd ar y bws T6.
-
Cefn Coed 58, T6
Camlesi Tennant a Chastell-nedd
Er mai dim ond rhannau o’r ddwy gamlas sydd wedi eu hadfer, mae cyfoeth o hanes a threftadaeth naturiol yma yn eu lociau, traphontydd dŵr a basnau’r camlesi (a ddefnyddiwyd ar gyfer llwytho a thrawslwytho).
Mae cerdded da, gwastad ar hyd llwybrau halio’r ddwy gamlas ac mae mynediad hawdd ar y bws ar amrywiol bwyntiau.
-
Jersey Marine X55 neu 58
Mynachlog Nedd 34
Tonna X55
Aberdulais 58 neu T6
Y Clun X55
Resolfen X55












Eglwys hanesyddol Sant Catwg, Llangatwg
Credir mai Eglwys Sant Catwg yw’r eglwys hynaf yn y cwm. Cafodd ei sefydlu yn y 13eg ganrif gan Sant Catwg, archgystadleuwr Sant Illtyd a adeiladodd ei eglwys yr ochr draw i’r cwm. Mae’r tŵr yn hanu o’r 13eg ganrif, a’r corff, y gangell a’r porth o’r 18fed ganrif.
Mae’n enwog am ei ‘Charreg Lofruddiaeth’ sy’n nodi bedd Margaret Williams, a gafodd ei llofruddio yn 1822, yn 26 oed. Gwaith y Crynwr lleol, Elijah Waring, yw’r geiriau ar y garreg. Comisiynodd y garreg i fynegi dicter y gymuned wrth y llofruddio a’r gred mewn dial na ellir byth dianc rhagddo.
-
Llangatwg Green Dragon 58
Gwlad y Sgydau
Mae Gwlad y Sgydau yn enw perffaith i Gwm Nedd gan fod mwy o raeadrau mawreddog yn nalgylch yr afon hon nag yn unrhyw le arall yn Ynysoedd Prydain!
Dyma rai o’r goreuon, gan ddangos sut gellir eu cyrraedd ar y bws.