Crwydrwch wrth ochr y gamlas a thrwy gefn gwlad hardd Cwm Tawe
Hawdd eu cyrraedd ar y bws o Gastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe
Mae llawer o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol ynghyd â llwybrau cerdded ardderchog yng Nghwm Tawe. Ymhellach ymlaen byddwch yn dod i gyffiniau rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Camlas Abertawe yn rhedeg drwy ran helaeth o’r cwm. Mae’r gwaith adfer arni ar wahanol gamau ac mae’n enghraifft dda o dreftadaeth gludiant.
Pontardawe
Pontardawe yw prif dref Cwm Tawe ac mae mewn lleoliad pwysig ar y groesffordd ogledd-dde a dwyrain-orllewin. Mae ei Chanolfan Gelfyddydau fywiog yn adnabyddus fel un o’r lleoliadau diwylliannol gorau yn Ne Cymru – mae ei repertoire amrywiol yn cynnwys cerddoriaeth, drama a dawns, llenyddiaeth a theatr plant, melangan a cherddoriaeth y byd. Mae ei heglwys yn nodwedd fawreddog sy’n ymgodi uwch ben y dref a’r gamlas.
-
Pontardawe Jiwbilî X50 X51 56 256









Camlas Abertawe
Mae’r rhan fwyaf o’r gamlas hanesyddol hon wedi ei hadfer neu’n cael ei hadfer ar hyn o bryd, ac mae’n nodwedd ganolog o’r cwm rhwng Pontardawe a Godre’r Graig. Y ffordd orau o werthfawrogi harddwch y cwm yn yr oes ôl-ddiwydiannol yw mynd am dro ar hyd y llwybr halio. Mae dwy daith gerdded ar gael wrth ochr y gamlas, Clydach i Bontardawe, a Phontardawe i Ystalyfera.
-
Clydach Mond
Pontardawe Jiwbilî
Ystalyfera Gwesty’r New Swan X50 neu X51
Craig Chwedlonol Ynysgeinon
Yn ôl y chwedl enwog, roedd drws carreg trwm ar wyneb Craig Ynysgeinon yn arwain i deyrnas y tylwyth teg gyda’i chyfoeth aruthrol a thramwyfeydd yn arwain i Graig y Nos a mannau eraill. Dyma’r chwedl:
‘Dros ganrif yn ôl, roedd gwas fferm o’r enw Dai yn dal cwningod ger y graig pan welodd ddyn bychan yn dweud gair hud a agorodd ddrws trwm yn arwain i mewn i’r graig. Daeth Dai yn ei ôl yn ddiweddarach, ar ôl iddo gofio’r gair, ac agorodd y drws i ddatgelu gwlad o hud a lledrith yn llawn aur. Caeodd y drws ar ei ôl ac roedd yn garcharor, ond cafodd ei fabwysiadu gan y tylwyth teg a bu’n byw yno mewn heddwch am saith mlynedd nes iddo ddychwelyd i’r fferm gyda llond sach o aur. Cafodd ei berswadio gan ei feistr i ddatgelu’r gair hud ac aeth hwn yno ei hunan nifer o weithiau, gan ddod nôl â sachaid o aur bob. Un diwrnod ni ddychwelodd y meistr ac aeth Dai i chwilio amdano. Daeth o hyd iddo yn hongian y tu ôl i’r drws, wedi’i chwarteru. Cafodd Dai’r fath ofn fel na ddefnyddiodd y gair hud fyth eto’.
-
Ystalyfera Asda X50 neu X51


Gwaith Haearn Ynyscedwyn
Cychwynnodd Gwaith Haearn Ynyscedwyn fel ffwrnais chwyth sengl a adeiladwyd ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Roedd y gwaith yn fenter gymharol fach tan y 1820au cynnar pan ddechreuodd ddatblygu’n raddol, ac erbyn 1853 roedd iddo chwe ffwrnais chwyth.
Yn 1889, adeiladwyd gwaith tunplat ar yr un safle a pharhaodd hwn i gynhyrchu tan 1946.
Mae rhan o safle’r Gwaith Haearn gwreiddiol wedi cael ei hadfer yn chwaethus yng Nglan-rhyd.
-
Glan-rhyd X50 neu X51
Crwydro Cefn Gwlad – pedair taith gerdded wych
Mae taith gerdded ddymunol Glyn Cwm Du yn ymlwybro drwy goedwig hardd yng nghwm dwfn Clydach Uchaf i’r gorllewin o’r dref.
Uwchlaw rhan ddwyreiniol y dref mae taith gerdded Cilybebyll, o Rhos nôl i Bontardawe trwy dirwedd hanesyddol, hardd gyda Mynydd March Hywel yn gefnlen a golygfeydd gwych dros Gwm Tawe.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
-
Castell-nedd neu Abertawe
-
X50 neu X51 Cymru Clipper Abertawe – Clydach, Pontardawe, Ystalyfera ac Ystradgynlais (dydd Llun i ddydd Sul)
56 neu 256 Castell-nedd – Rhos a Phontardawe (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
