Crwydro Cefn Gwlad:

Llwybr y Rhaeadr a Phowdwr Gwn

Hanes, harddwch naturiol a phŵer aruthrol dŵr mewn un daith gerdded

Roedd cwm Afon Mellte i’r gogledd o Bontneddfechan yn ganolfan diwydiannol pwysig gynt, ble cawsai creigiau silica eu mwyngloddio a phowdwr gwn ei gynhyrchu. Roedd Melinau Powdwr Glyn-nedd, a sefydlwyd yn 1857 i gynhyrchu powdwr a ddefnyddiwyd wrth fwyngloddio a chwarela, yn gweithredu tan 1931. Roedd y cwm a’i lethrau serth yn addas iawn ar gyfer cynhyrchu powdwr gwn. Roedd tir y gwaith yn ymledu dros ddau gilometr gan greu digon o le rhwng yr adeiladau i sicrhau bod effaith ffrwydradau’n cael ei gyfyngu. Roedd yr afon a’i llif cyflym yn pweru’r rhodau dŵr a’r tyrbinau ac roedd yr holl ddeunyddiau crai’n cael eu cyrchu yn y cyffiniau. Byddai tramffordd, sef y prif lwybr i fyny’r cwm erbyn hyn, yn cysylltu’r melinau â Chamlas Castell-nedd a Rheilffordd Cwm Nedd gan gludo deunyddiau crai i fyny’r cwm.

Cafodd llawer o adeiladau eu dinistrio yn y 1940au oherwydd y perygl o ffrwydrad damweiniol ond mae rhai ar ôl a gellir eu gweld ar hyd y llwybr. Y mwyaf amlwg yw’r Tŷ Gronynnu a adeiladwyd o goncrit ar ben pellaf y llwybr. Yn gyffredinol byddai’r adeileddau eraill yn cael eu hadeiladu o gerrig a gwaith maen ac yn meddu ar dair wal solet (mae rhai o’u hadfeilion mewn bod o hyd). Byddai’r bedwaredd wal a’r to wedi’u gwneud o bren fel y byddai ffrwydrad yn symud i fyny ac allan o’r adeilad gan gyfyngu ar y difrod i’r peirianwaith drud.

Mae Craig Dinas yn nodwedd amlwg ar ddechrau’r llwybr ac mae ei maint sylweddol yn dangos yr hyn a elwir yn ddaearegol yn ‘anticlin’ a ddatgelwyd ar ôl chwarela helaeth am galchfaen a silica yn y 19eg  ganrif.

Mae mwyngloddiau silica yn nodwedd o ail ran y daith i fyny cwm Nedd Fechan. Cawsai silica ei ddefnyddio i wneud brics tân a fyddai’n leinio’r ffwrneisi mwyndoddi metel yn y Chwyldro Diwydiannol. Roedd ‘Brics Silica Dinas’ yn gynnyrch gwerthfawr – roedd galw amdanynt nid yn unig yn lleol ond ledled y byd.

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

O derfynfa fysiau Min-yr-Awel (CG 910080), cerddwch i Graig Dinas – pentir nodedig a ddefnyddir gan grwpiau antur ar gyfer dringo ac abseilio. Dilynwch yr isffordd dros afon Mellte gan droi i’r chwith i’r maes parcio.

Ewch yn ôl dros y bont, trowch i’r dde ac anelwch am yr hen dramffordd. Roedd yr adeilad (ar y chwith), sydd nawr yn neuadd gymunedol, gynt yn storfa ar gyfer powdwr gwn a’r unig un sydd wedi goroesi’n gyfan ar ôl i’r diwydiant ddarfod. Mae’r llwybr gwastad yn eich tywys wrth ochr yr afon (ar y dde) am tua 1.5 cilometr. Byddwch yn gweld rhai olion o’r diwydiant powdwr gwn ar ffurf adfeilion adeiladau, y mae llawer wedi’u gorchuddio â deiliant. Ar ôl 1 cilometr, mae pont sy’n croesi’r afon (a oedd gynt yn gangen o’r dramffordd) wedi cael ei hadnewyddu fel troedffordd. Parhewch ar hyd y prif lwybr i safle cored ble mae olion diwydiannol helaeth, yn cynnwys y Tŷ Gronynnu (ar y chwith). Mae’r llwybr ar gau y tu hwnt i’r man hwn. Ewch yn ôl i Graig Dinas ac yna ar hyd y ffordd i ganol Pontneddfechan. Ger yr Angel Inn, trowch i’r dde trwy gât mochyn gyda Chraig Ffarwel y tu hwnt (ar y chwith) – rhoddwyd yr enw hwn iddi gan lowyr gan ei bod ar derfyn gogleddol y creigiau oedd yn cynnwys glo.

Mae’r llwybr hwn yn hen dramffordd arall oedd yn gwasanaethu’r mwyngloddiau silica a byddwch yn gweld tystiolaeth o ambell i sliper cerrig wrth ochr y llwybr. Ar y dde mae afon Nedd Fechan ac ar y chwith, adfeilion hen felin flawd a mwynglawdd silica yn eu trefn. Ar ôl cerdded 2 gilometr ar hyd y llwybr byddwch yn cyrraedd cydlifiad y Nedd Fechan a’r Pyrddin. Croeswch yr afon ar bont droed bren gan droi i’r chwith ar lwybr troed anwastad sy’n mynd i fyny glan dde afon Pyrddin at Sgwd Gwladus (Rhaeadr y Foneddiges). Mae hon yn rhaeadr hardd 10 metr o uchder sy’n disgyn dros gefn o dywodfaen. Gallwch weld y rhaeadr oddi yma neu dringwch lwybr serth i’w gweld o’r top.

Ewch yn ôl i Bontneddfechan ble mae lluniaeth a thoiledau ar gael a bydd eich bws adref yn gadael o’r safle gyferbyn â’r Angel Inn.

Pellterau metrig a roddir ym mhob man
Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans

Darllen mwy