Crwydro Cefn Gwlad:

Llwybr Treftadaeth Aberdulais

Treftadaeth Cludiant a Diwydiannol yng nghanol harddwch naturiol

Roedd Aberdulais yn un o’r mannau poeth diwydiannol niferus ar hyd y canrifoedd ac yn gyfnewidfa gludiant bwysig. Mae’r llwybr yn cysylltu Tonna â Chamlesi Tennant a Chastell-nedd, safle’r Gwaith Tun a’r Rhaeadr* ac yn olaf  Amgueddfa Glofa Cefn Coed*.
*Mae mynediad i safle Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yn gyfyngedig o ran oriau/diwrnodau agor yn y gaeaf; mae Cefn Coed ar gau yn ystod misoedd y gaeaf

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

Disgynnwch o’r bws X55 ar Heol Henfaes, Tonna a throwch i’r chwith ar unwaith (CG 770988) i ffordd bengaead fechan sy’n arwain i Gamlas Castell-nedd wrth loc Tyn-yr-Heol (200 metr).

Cafodd Camlas Castell-nedd ei thirfesur mor bell yn ôl â 1791 gan Thomas Dadford, ac fe’i hagorwyd rhwng Glyn-nedd a Llansawel yn 1795 gan y peiriannydd Thomas Sheasby. Costiodd y llwybr 17 cilometr £40,000 ac roedd iddo 19 o lociau, yn cynnwys Loc Tyn-yr-Heol. Adeiladwyd y tŷ sydd yma tua diwedd y 18fed ganrif fel cartref i geidwad y loc ac roedd iddo’r un swyddogaeth am dros 150 o flynyddoedd. Nawr mae wedi ei adfer yn llawn ac mewn perchenogaeth breifat.

Croeswch y gamlas wrth Loc Tonna gyda’i Dŷ’r Loc hardd, newydd ei adfer, a throwch i’r dde i lwybr halio’r gamlas.
Dilynwch y llwybr am tua 1 cilometr; ar y chwith mae depo dosbarthu nwy anneniadol, ac ar y dde mae’r gamlas yn rhedeg islaw llethr dwfn, coediog. Yn Aberdulais, croeswch y ffordd yna ewch dan bont y rheilffordd i Fasn Camlas Aberdulais.

Y Basn hwn oedd y gyffordd rhwng Camlesi Castell-nedd (Glyn-nedd-Llansawel) a’r Tennant (Aberdulais-Port Tennant); roedd hefyd yn fan llwytho a throsglwyddo ar gyfer trafnidiaeth gludo. O ran masnach, roedd Camlas Castell-nedd yn cludo 150,000 o dunelli o lo erbyn 1820. Cododd hyn i 200,000 o dunelli yn ei hanterth, gan drosglwyddo i Gamlas Tennant yn bennaf. Mae’r Tennant yn croesi afon Nedd ar draphont dŵr (mewn bod o hyd ond mewn cyflwr gwael) i’r de o’r basn, a ddilynir gan loc.

Ewch am dro byr i gyfeiriad yr afon i weld y draphont dŵr yn cario’r gamlas dros afon Nedd a thu hwnt. Mae’r bont yn cario Rheilffordd Cwm Nedd.

Agorwyd Rheilffordd Cwm Nedd yn 1851 rhwng Aberdâr (ac yn ddiweddarach Merthyr hefyd) a Chastell-nedd; ei phrif bwrpas oedd cludo glo a mwynau o gymoedd Taf a Chynon i Ddociau Abertawe. Cafodd ei chaffael gan Reilffordd y Great Western yn 1865 a’i datblygu fel llwybr strategol o’r cymoedd canol i Bont-y-pŵl. Cychwynnodd y trenau teithwyr yn 1853 a buont yn rhedeg am 111 o flynyddoedd, nes iddynt gau yn 1964; roedd gorsaf yn Aberdulais. Parhaodd y drafnidiaeth gludo tan yn ddiweddar er bod y lein bellach wedi’i ‘rhoi i’w chadw’ oherwydd prinder gweithgareddau mwyngloddio.

Gadewch fasn y gamlas, disgynnwch at y ffordd, trowch i’r dde a chroeswch yr afon. Trowch i’r dde eto heibio i hen dŷ’r loc, dros y gamlas a than yr A465 gan ddod allan ar yr A4109. Trowch i’r dde a bydd y fynedfa i Waith Tun a Rhaeadr Aberdulais gyferbyn. Mae i’r safle hwn orffennol diwydiannol cyfareddol. I gychwyn disodlwyd mwyndoddi copr gan wneud haearn ac yn olaf gan gynhyrchu tunplat. Pwerwyd y gweithgaredd hwn gan ddŵr o Raeadr Aberdulais, gyda chymorth olwyn ddŵr a bwerai’r tyrbinau. Mae safle Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wedi ei adfer yn chwaethus gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n darparu dehongli ar amrywiol agweddau’r gorffennol hanesyddol (Noder: Codir tâl mynediad).

O Raeadr Aberdulais, ewch yn eich blaen i fyny’r A4109 am 200 metr a chymryd yr ail ar y chwith i heol Cefn-yr-Allt. Ar ôl mynd heibio i stad dai fechan, mae’r ffordd yn mynd drwy dir agored a choetir am y 4 cilometr nesaf cyn ailymuno â’r ffordd fawr 1 cilometr o amgueddfa Cefn Coed.

Mae’r amgueddfa, sydd newydd ailagor, yn dweud stori codi glo yng Nglofa Cefn Coed. Ar un adeg, hon oedd y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd. Roedd yn un o’r glofeydd mwyaf peryglus yng Nghymru a chollodd llawer eu bywydau yma. Mae’r amgueddfa’n llawn geiriau, lluniau ac arteffactau sy’n dweud stori’r dynion a weithiai yno ac mewn pyllau glo carreg eraill yng Nghymru. Mae’r lefel danddaearol, gyda’i hefelychiad o wythïen lo, yn adlewyrchu amodau gwaith truenus y glowyr Mae’r amgueddfa’n gartref i beiriant weindio stêm sy’n dyddio o 1927 ac a bwerir bellach gan drydan, ynghyd ag eitemau eraill o beirianwaith mwyngloddio. Mae hefyd yn cynnwys y tram nwy olaf i redeg yng Nghastell-nedd – mae hwn wedi ei adfer yn ofalus.

Mae’r safle bysiau ar gyfer y daith adref ar y ffordd fawr gyferbyn â’r amgueddfa.

Darllen mwy