Crwydro Cefn Gwlad:

Glyncorrwg i'r Cymer

Taith gerdded hanesyddol hyfryd ar hyd yr hen reilffordd

Cwm Corrwg a’i lofeydd niferus oedd y rheswm gwreiddiol dros sefydlu Rheilffordd Fwynau De Cymru (SWMR) i gysylltu’r cwm â dociau Llansawel ar hyd llwybr troellog drwy’r Cymer, Tonmawr a Phwynt Crythan.

Yn 1863, agorodd SWMR ei lein yn cysylltu Glyncorrwg â Thonmawr ac ymlaen i Lansawel ar hyd inclein Ynysmaerdy. Cafodd y lein ei saernïo gan Brunel, a’i hadeiladu i’r lled llydan (7’0¼’’), ond cafodd ei haddasu i led safonol (4’8½’’) yn 1872. Erbyn 1878, roedd derbynnydd wedi ei benodi, yn yr un flwyddyn ag yr adeiladwyd traphont (mewn bod o hyd ond mewn cyflwr adfeiliedig) yn y Cymer i gysylltu’r SMWR â lein Cwm Llynfi y GWR. Gwerthwyd y rheilffordd i Reilffordd Port Talbot a pharhaodd y drafnidiaeth i ddefnyddio’r lein drwy Donmawr tan 1947 pan gaewyd twnnel Gyfylchi am byth gan dirlithriad. Am gyfnod byr (1918-1930) roedd teithwyr yn cael eu cludo ar y lein, ond cyn hynny roeddent yn cael eu cludo am ddim mewn wagenni nwyddau agored gan nad oedd trwydded gludo swyddogol gan y rheilffordd!

Aeth trafnidiaeth glo yn ei blaen tan 1970, a hefyd y gwasanaeth teithwyr i weithwyr rhwng Glyncorrwg a Gogledd y Rhondda (roedd hwn yn angenrheidiol gan nad oedd ffordd i’r gogledd o Lyncorrwg). Ar yr adeg honno, caeodd Pwll y De (un o’r ddwy lofa olaf yng Nghwm Afan)

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

Disgynnwch oddi ar y bws yn Stryd y Bont, wrth fan cychwyn y daith gerdded ar safle hen orsaf Glyncorrwg (CG 875993); ewch tua’r gogledd-ddwyrain ar hyd y darn o reilffordd oedd yn gwasanaethu glofeydd Pwll y De a Gogledd y Rhondda (a gaeodd yn y 1960au; does braidd dim olion) am 1 cilometr i’r man lle mae’r llwybr troed yn ymrannu yn ddau wrth Lety Dafydd (CG 886997), safle glofa Gogledd y Rhondda.

Mae’r llwybr yn cychwyn yng Nglyncorrwg ar safle’r orsaf ble daeth y gwasanaethau rheolaidd swyddogol i deithwyr i ben yn y 1930au. Fodd bynnag, nid oedd ffordd wrth ochr y lein i Bwll y De a Gogledd y Rhondda felly byddai trenau answyddogol yn cael eu darparu’n aml i’r gweithwyr yn ystod newid sifftiau er mwyn cludo’r glowyr i’r gwaith ac adref. Roedd gorsafoedd yn agos i’r ddwy lofa, ond maent wedi diflannu’n llwyr. Er i Ogledd y Rhondda gau yn 1960, parhaodd Pwll y De tan 1970 – hwn oedd y pwll olaf un yng Nghwm Afan; roedd yn adnabyddus am ffrwydrad mawr yn 1954 pan achoswyd 24 o anafiadau difrifol ond dim marwolaethau.

Ewch yn ôl i Lyncorrwg a pharhau tua’r de-orllewin ar hyd yr hen reilffordd. Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg islaw (ar y chwith) ac wedyn y ‘Pyllau’, sy’n gyfleuster pysgota poblogaidd. Yn fuan wedyn (CG 872974) byddwch yn gweld seidin yn gwasanaethu cloddfa ddrifft ar ochr y mynydd (ar y dde). Mae’r llwybr yn parhau am dipyn uwchlaw Afon Corrwg gyda thirwedd glogyrnog ond deniadol sydd wedi’i newid yn rhannol gan y gwaith cwympo coed diweddar.

Noder bod tipyn o gwympo coed wedi digwydd yma. Yn 2010, darganfuwyd clefyd coed o’r enw Phytophthora ramorum ar y llarwydd Japaneaidd yng Nghoedwig Afan ac mewn mannau eraill. O ganlyniad, mae llawer o goed wedi cael eu cwympo, yn enwedig yn y rhan hon o’r cwm. Plannwyd y goedwig mor ddiweddar â’r 1930au, a nawr mae’r rhaglen gwympo’n caniatáu i rywogaethau brodorol fel coed derw a chriafol ailsefydlu.

Mae’r llwybr yn cyrraedd y Cymer ar ochr ogleddol afon Afan ble rydych y croesi i’r pentref ar bont ffordd goncrit sy’n gyfochrog â hen draphont y rheilffordd. Trowch i’r dde ac yn fuan byddwch yn cyrraedd y ‘Refreshment Rooms’, dyma yw enw’r dafarn oherwydd iddi fod yn dafarn/caffi gynt ar gyfer y ddwy orsaf yn y Cymer.

I gyrraedd y gyfnewidfa fysiau (CG 857960), dilynwch yr isffordd heibio i’r orsaf dân ac wrth dŵr y cloc, trowch i’r dde a cherdded 200 metr ar hyd yr A4107.

Pellterau metrig a roddir ym mhob man. Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans.

Darllen mwy