Crwydro Cefn Gwlad:

Cilybebyll i Bontardawe

Taith gerdded gyfareddol yng nghanol harddwch naturiol a threftadaeth ddiwydiannol

Sefydlwyd ystad Cilybebyll yn y 15fed ganrif ac ar ôl iddi gael ei datblygu gan amrywiol deuluoedd, erbyn 1838 cafodd ei chofnodi fel y ddeiliadaeth dir fwyaf yn yr ardal. Cafodd y prif dŷ, Plas Cilybebyll, ei ailddatblygu yn 1840 gan Henry Leach, gan greu ffasâd Fictoraidd yn wynebu tua’r de ar yr eiddo. Etifeddodd ei fab Frances yr ystad yn 1848 a newidiodd hwn ei enw i Lloyd yn 1849 drwy Siarter Brenhinol er mwyn peidio â fforffedu ei etifeddiaeth. Heddiw mae’r Plas yn westy bach.

Fel yn llawer o Dde Cymru, mae codi glo ar raddfa fechan wedi digwydd yma am ganrifoedd. Erbyn 1849 roedd yn cynhyrchu meintiau mawr o lo a gludwyd i bob rhan o’r byd o ddociau Abertawe. Amlygir y peryglon sydd ynghlwm wrth godi glo gan ddau drychineb yn y gymdogaeth. Yn 1858, lladdwyd 14 o ddynion a bechgyn gan fygdarthau peiriannau a gafodd eu pwmpio’n ddamweiniol i Lofa Primrose.

Heddiw, mae’r ardal yn hafan heddychlon ymhell o sŵn a ffwdan y byd modern ac yn llawn adar a golygfeydd syfrdanol.

Darllen mwy

Manylion y Llwybr

O’r safle bysiau wrth Swyddfa Bost Rhos (CG 738032), trowch i’r dde i Heol y Plas, gan nodi’r mynegbost anarferol sy’n dangos Cilybebyll, 1 filltir 1¼ ystaden. Dilynwch y ffordd wledig hon am 1.5 cilometr gyda thirwedd hardd Mynydd March Hywel a’r fynedfa i Blas Cilybebyll ar y dde, nes i chi gyrraedd y tro i’r chwith sydd â’r arwydd Cilybebyll.

Trowch yma ac ar ôl 200 metr byddwch yn gweld (ar y dde) hen eglwys Sant Ioan yr Efengylwr wedi’i hamgylchynu gan nifer o’r tai mawr yn y pentref bychan hwn. Gyferbyn â’r eglwys, ymunwch â Llwybr cyfeirbwyntiedig Cilybebyll a fydd yn eich arwain trwy’r caeau ar hyd llwybr ag wyneb caled neu balmantog gyda lleiniau garw a chreigiog ysbeidiol. Mae hwn yn eich arwain i Heol y Dramffordd ym mhentref Gellinudd; trowch i’r dde a bydd y llwybr yn eich arwain i olion tramffordd y gwyddir braidd dim amdani heblaw am y ffaith ei bod wedi cludo glo o lofeydd bach i’r rheilffordd islaw.

Dilynwch y dramffordd ac yn y man lle mae ei gwrthgloddiau’n diflannu, trowch i’r chwith ar hyd llwybr sydd â rhai cyfeirbwyntiau tua’r de-orllewin nes i chi ddod allan ger Fferm Gyndole. Mae llwybr y dramffordd yn serth ac yn arw dan draed a gall y llwybr troed sy’n dilyn fod yn fwdlyd. Mae’r trac fferm (nad yw’n hawl tramwy i’r cyhoedd) yn arwain i Alltwen ac rydych yn mynd drwy stad dai fodern (ar y chwith) ac wedyn heibio i gragen hen ffatri, ac ymlaen uwchlaw’r rheilffordd a’r afon ar hyd ffordd drefol. Er ei bod yn dirnod amlwg, nid yw Eglwys San Pedr yn dod i’r golwg tan nawr. Mae’r ffordd yn dod allan wrth gylchfan fawr ac i mewn i Bontardawe gan groesi’r A4067 (gorsaf Rheilffordd y Midland a Phontardawe gynt. Yn anffodus nid oes unrhyw olion o’r naill na’r llall heddiw).

Oddi yma, trowch i’r dde wrth y gylchfan nesaf yna i’r chwith i Stryd Herbert. Mae’r derfynfa fysiau uwchlaw ar y chwith.

Pellterau metrig a roddir ym mhob man
Mae CG yn cyfeirio at gyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans

Darllen mwy